EastEnders

EastEnders

Delwedd o agoriad y rhaglen, cyflwynwyd ar y 5ed o Fedi, 1999
Genre Opera sebon
Serennu Gweler isod
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 27 - 29 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Rhediad cyntaf yn 19 Chwefror 1985
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Opera sebon a leolir yn nwyrain Llundain yw EastEnders. Lawnsiwyd y gyfres gan y BBC ar y 19eg o Chwefror 1985. Un o amcanion y rhaglen yw dangos bywyd pob dydd trigolion dwyrain Llundain.

Mae EastEnders yn opera sebon sydd wedi ennill nifer o wobrau. O ran y nifer o wylwyr mae EastEnders yn un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig, ac yn aml mae'n agos neu ar frig siart BARB. Mae llinynnau stori'r rhaglen yn astudio bywydau personol a phroffesiynol trigolion Albert Square, sgwâr Fictorianaidd o dai teras, tafarn, stryd farchnad ac nifer o fusnesau bychain yn Nwyrain Llundain, y Deyrnas Unedig.

Yn wreiddiol, cafodd y rhaglen ei darlledu ddwy waith yr wythnos am hanner awr. Erbyn hyn, darlledir pedair rhaglen yr wythnos ar BBC1 (gyda phob rhaglen yn cael ei ail-darlledu ar BBC 3 am 10y.h.) ac omnibws ar brynhawn dydd Sul. O fewn wyth mis o lawnsio'r rhaglen, roedd wedi cyrraedd y brig o ran y nifer o wylwyr. Ar gyfartaledd, mae pob rhaglen yn derbyn tua 35 i 45% o'r gynulleidfa. Crëwyd y rhaglen gan Julia Smith a golygydd y sgript oedd Tony Holland. Mae'r rhaglen wedi ymdrin â nifer o bynciau llosg a dadleuol, gyda nifer o'r pynciau hynny'n cael eu gweld am y tro cyntaf ar deledu ym Mhrydain.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search